2016 Rhif 56 (Cy. 26)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â gwahanol faterion sy’n ymwneud â datblygiad sydd o arwyddocâd cenedlaethol i Gymru([1]).

Mae’r Rheoliadau hyn yn:

   gwneud darpariaeth o dan adrannau 61Z1 a 61Z2 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) ar gyfer darparu gwasanaethau gan awdurdodau cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru cyn bo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol (Rhan 2);

   rhagnodi swyddogaethau sydd i’w cyflawni gan berson penodedig ar ran Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â cheisiadau o’r fath a chydsyniadau eilaidd([2])(Rhan 3);

   gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth archwilio ceisiadau o’r fath (Rhannau 4 i 10);

   gwneud darpariaeth ar gyfer y modd y trinnir cydsyniadau eilaidd neu geisiadau am gydsyniadau eilaidd  gan Weinidogion Cymru (Rhan 11);

   addasu deddfiadau cymwysadwy mewn perthynas â chydsyniadau eilaidd (Rhan 11 ac Atodlenni 2 i 10); a

   rhagnodi pa geisiadau a wneir o dan adran 73 o Ddeddf 1990 (penderfynu ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd yn flaenorol) sydd i’w trin fel ceisiadau ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol (Rhan 12).

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.


2016 Rhif 56 (Cy. 26)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

Gwnaed                                27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad

 Cenedlaethol Cymru             1 Chwefror 2016

Yn dod i rym                          1 Mawrth 2016

CYNNWYS

RHAN 1

Rhagarweiniol

 

1.              Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.              Dehongli

3.              Cyfathrebiadau electronig

4.              Caniatáu amser ychwanegol

 

RHAN 2

Cyn-ymgeisio

 

5.              Ceisiadau cymwys

6.              Cais am wasanaethau cyn-ymgeisio

7.              Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cyn-ymgeisio: awdurdodau cynllunio lleol

8.              Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cyn-ymgeisio: Gweinidogion Cymru

9.              Monitro a datganiad o wasanaethau

 

RHAN 3

Penodi a swyddogaethau penodedig

 

10.            Penodi

11.            Swyddogaethau penodedig

 

RHAN 4

Penderfynu ar weithdrefn

 

12.            Cyfnod rhagnodedig

13.            Penderfynu ar weithdrefn

 

RHAN 5

Gwybodaeth ac ymweliadau safle

 

14.            Sylwadau sydd i’w cymryd i ystyriaeth

15.            Gwybodaeth bellach

16.            Arolygiadau safle

 

RHAN 6

Sylwadau ysgrifenedig

 

17.            Cymhwyso Rhan 6

18.            Adroddiad

19.            Mynd ymlaen i benderfynu

 

RHAN 7

Gwrandawiadau

 

20.            Cymhwyso Rhan 7

21.            Dyddiad a lleoliad y gwrandawiad

22.            Hysbysiad cyhoeddus o’r gwrandawiad

23.            Penodi asesydd

24.            Cymryd rhan mewn gwrandawiad

25.            Absenoldeb, gohirio, etc.

26.            Gweithdrefn mewn gwrandawiad

27.            Gwrandawiad yn amhriodol

28.            Gweithdrefn ac adroddiad ar ôl gwrandawiad

29.            Penderfynu

 

RHAN 8

Ymchwiliadau

30.            Cymhwyso Rhan 8

31.            Cyfarfodydd cyn-ymchwiliad

32.            Dyddiad a lleoliad yr ymchwiliad

33.            Gweithdrefn mewn ymchwiliad

34.            Ymchwiliad yn amhriodol

35.            Penderfynu

36.            Hysbysiad o benderfyniad

 

RHAN 9

Penderfyniadau a ddilëir

 

37.            Gweithdrefn sydd i’w dilyn ar ôl dileu penderfyniad

 

RHAN 10

Cyfarwyddydau diogelwch gwladol

 

38.            Addasiadau pan roddir cyfarwyddyd diogelwch gwladol

39.            Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006

 

RHAN 11

Cydsyniadau eilaidd

 

40.            Cymhwyso’r Rhan hon

41.            Cymhwyso ac addasu deddfwriaeth sylfaenol

42.            Rheolaeth ar waith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig

43.            Gosod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd

44.            Caniatâd adeilad rhestredig

45.            Rheolaeth ar ddymchwel mewn ardaloedd cadwraeth

46.            Cydsyniad sylweddau peryglus

47.            Caniatâd cynllunio

48.            Priffyrdd yr effeithir arnynt gan ddatblygiad

49.            Dadgofrestru a chyfnewid tir comin

50.            Gwaith ar dir comin

 

RHAN 12

 

51.            Ceisiadau a drinnir fel ceisiadau ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol

 

         ATODLEN 1  —  Addasiadau pan roddir cyfarwyddyd diogelwch gwladol

         ATODLEN 2  —  Rheolaeth ar waith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig

         ATODLEN 3  —  Gosod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd: addasu deddfwriaeth sylfaenol

         ATODLEN 4  —  Caniatâd adeilad rhestredig

                RHAN 1  —  Addasu deddfwriaeth sylfaenol

                RHAN 2  —  Addasu is-ddeddfwriaeth

         ATODLEN 5  —  Dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth

                RHAN 1  —  Addasu deddfwriaeth sylfaenol

                RHAN 2  —  Addasu is-ddeddfwriaeth

         ATODLEN 6  —  Cydsyniad sylweddau peryglus

                RHAN 1  —  Addasu deddfwriaeth sylfaenol

                RHAN 2  —  Addasu is-ddeddfwriaeth

         ATODLEN 7  —  Caniatâd cynllunio

                RHAN 1  —  Addasu deddfwriaeth sylfaenol

                RHAN 2  —  Addasu is-ddeddfwriaeth

         ATODLEN 8  —  Priffyrdd yr effeithir arnynt gan ddatblygiad: Addasu is-ddeddfwriaeth

         ATODLEN 9  —  Dadgofrestru a chyfnewid tir comin: Addasu is-ddeddfwriaeth

       ATODLEN 10  —  Gwaith cyfyngedig ar dir comin: Addasu is-ddeddfwriaeth

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau: a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 60 o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 ac Atodlen 1 iddi([3]) ac adrannau 321B a 333 o Ddeddf

Cynllunio Gwlad a Thref 1990([4]) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([5]); a roddwyd iddynt gan adrannau 61Z1, 61Z2([6]), 62G([7]), 319B([8]) a 323A([9]) o’r Ddeddf honno, a pharagraff 1(2) o Atodlen 4D iddi([10]) a chan adran 57 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015([11]); ac a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr awdurdod cenedlaethol priodol gan adrannau 17, 24, 40 a 59(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006([12]), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([13]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1

Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2016.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys pan wneir cais neu pan fwriedir gwneud cais i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau sydd i’w gwneud i Weinidogion Cymru)([14]).

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesydd” (“assessor”) yw person a benodir i eistedd gyda pherson penodedig mewn gwrandawiad neu ymchwiliad neu wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorwyd, i gynorthwyo’r person penodedig;

ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yw’r awdurdod cynllunio lleol y byddid, oni bai am adran 62D o Ddeddf 1990, wedi gwneud cais iddo am ganiatâd cynllunio;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000([15]);

ystyr “cyfnod sylwadau” (“representation period”) yw’r cyfnod y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Orchymyn 2016([16]);

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl Banc nac yn ddydd gŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;

mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;

ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016([17]);

ystyr “hysbysiad derbyn” (“notice of acceptance”) yw hysbysiad o dan erthygl 6 o Orchymyn 2016 bod y cais wedi ei dderbyn;

ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw’r person a benodir yn unol â rheoliad 10 i arfer y swyddogaethau a bennir yn rheoliad 11;

mae “sylw” (“representation”) yn cynnwys tystiolaeth, esboniad, gwybodaeth a sylwadaethau; ac

mae “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yn cynnwys dogfennau ategol.

Cyfathrebiadau electronig

3.(1) Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig—

(a)     mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath;

(b)     mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o ddogfennau o’r fath, yn cynnwys cyfeiriadau at y cyfryw ddogfennau neu gopïau ohonynt mewn ffurf electronig.

(2) Mae paragraffau (3) i (7) yn gymwys pan ddefnyddir cyfathrebiad electronig gan berson at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi neu anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall i neu at unrhyw berson arall (“y derbynnydd”).

(3) Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu ddogfen arall a drawsyrrir ar ffurf cyfathrebiad electronig—

(a)     yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddi;

(b)     yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac

(c)     yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.

(4) Ym mharagraff (3), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw fod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau, o leiaf, ag y byddai pe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi gan ddefnyddio dogfen brintiedig.

(5) Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi cael y cyfathrebiad electronig ar y diwrnod gwaith nesaf.

(6) Mae unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw ddogfen fod mewn ysgrifen, wedi ei gyflawni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (3), a rhaid dehongli “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras yn unol â hynny.

(7) Bodlonir unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i anfon mwy nag un copi o ddatganiad neu ddogfen arall drwy anfon un copi yn unig o’r datganiad neu ddogfen arall o dan sylw mewn ffurf electronig.

Caniatáu amser ychwanegol

4. Caiff Gweinidogion Cymru, mewn unrhyw achos penodol, roi cyfarwyddydau sy’n estyn y terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn.

RHAN 2

Cyn-ymgeisio

Ceisiadau cymwys

5.(1) Mae’r canlynol yn geisiadau cymwys at ddibenion adran 61Z1(4) o Ddeddf 1990 (Cymru: gwasanaethau cyn-ymgeisio)—

(a)     cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu tir yng Nghymru pan fo’r datblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol([18]); a

(b)     cais neu ofyniad am gydsyniad eilaidd([19]) y tybia’r ceisydd y dylai Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad mewn cysylltiad ag ef.

(2) Yn y Rhan hon, ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw’r person sy’n bwriadu gwneud cais cymwys.

Deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio

6.(1) Rhaid i unrhyw ddeisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio mewn cysylltiad â chais cymwys fod—

(a)     yn ysgrifenedig i’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru, ar ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith);

(b)     yn cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru; ac

(c)     wedi ei gyflwyno ynghyd ag—

                           (i)    unrhyw blaniau neu luniadau a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru; a

                         (ii)    unrhyw ffi benodedig sy’n daladwy am wasanaethau cyn-ymgeisio([20]).

(2) Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae’n ofynnol eu darparu yn rhinwedd paragraff (1)(c)(i) fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir, ac yn achos planiau rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.

(3) Yn y Rhan hon, ystyr “deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio” (“valid request for pre-application services”) yw deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio mewn cysylltiad â chais cymwys sy’n cydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn.

(4) Pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn cael cais dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, anfon cydnabyddiaeth o’r deisyfiad at y ceisydd, gan ddatgan erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid darparu gwasanaethau cyn-ymgeisio o dan reoliad 7(3) neu, yn ôl y digwydd, reoliad 8(3).

Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cyn-ymgeisio: awdurdodau cynllunio lleol

7.(1) Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cael deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i’r awdurdod ddarparu’r gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir ym mharagraff (2) o fewn y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato ym mharagraff (3).

(2) Y gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir yn y paragraff hwn yw darparu i’r ceisydd wybodaeth mewn perthynas â’r canlynol—

(a)     hanes cynllunio’r tir y bwriedir cyflawni’r datblygiad arfaethedig arno, i’r graddau y mae’n berthnasol i’r cais arfaethedig;

(b)     darpariaethau’r cynllun datblygu, i’r graddau y maent yn faterol berthnasol i’r cais arfaethedig;

(c)     unrhyw ganllawiau cynllunio atodol, i’r graddau y maent yn faterol berthnasol i’r cais arfaethedig;

(d)     unrhyw ystyriaethau eraill sydd, neu a allai fod yn faterol berthnasol ym marn yr awdurdod;

(e)     pa un a yw’n debygol ai peidio y bydd rhwymedigaethau cynllunio (yn yr ystyr a roddir i “planning obligations” gan adran 106 o Ddeddf 1990 (rhwymedigaethau cynllunio)([21])) yn ofynnol, ac os byddant, dylid nodi cwmpas tebygol y cyfryw rwymedigaethau cynllunio, gan gynnwys nodi unrhyw swm y gallai fod yn ofynnol ei dalu i’r awdurdod; ac

(f)      unrhyw grwpiau cymunedol lleol perthnasol sy’n hysbys i’r awdurdod, y gallai’r ceisydd ymgynghori â hwy fel rhan o’r ymgynghoriad cyn-ymgeisio.

(3) Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—

(a)     28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y ceir deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, neu pa bynnag gyfnod arall a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a’r awdurdod; neu

(b)     pan fo’r ffi sy’n ofynnol mewn cysylltiad â deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio wedi ei thalu â siec, a'r siec honno wedyn yn cael ei dychwelyd heb ei thalu, y cyfnod fel a bennir yn is-baragraff (a) wedi ei gyfrifo gan ddiystyru’r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd ynghylch dychwelyd y siec heb ei thalu a’r dyddiad pan fodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.

(4) Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir i’r ceisydd fod mewn ysgrifen.

Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cyn-ymgeisio: Gweinidogion Cymru

8.(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu pa bynnag rai o’r gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir ym mharagraff (2) y gofynnir amdanynt gan y ceisydd, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3).

(2) Y gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir yn y paragraff hwn yw—

(a)     gwybodaeth a chymorth mewn perthynas ag unrhyw rai o’r canlynol—

                           (i)    ffurf a chynnwys y cais;

                         (ii)    ffurf a chynnwys unrhyw adroddiadau technegol a allai fod yn ofynnol;

                       (iii)    y gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais a’i hebrwng ymlaen; a

(b)     pa bynnag wybodaeth neu gymorth arall a ddeisyfir gan y ceisydd, y gall Gweinidogion Cymru eu darparu ac y tybiant a fyddai o gymorth i’r ceisydd ar gyfer gwneud cais a’i hebrwng ymlaen; ac

(c)     asesiad dechreuol o’r cais arfaethedig.

(3) Y cyfnod penodedig yn y paragraff hwn yw 28 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r diwrnod pan geir deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio neu pa bynnag gyfnod hwy a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(4) Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir neu a gadarnheir i’r ceisydd fod mewn ysgrifen.

Monitro a datganiad o wasanaethau

9.(1) Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru gadw cofnod o’r canlynol—

(a)     pob deisyfiad dilys a gânt am wasanaethau cyn-ymgeisio; a

(b)     y gwasanaethau cyn-ymgeisio a ddarperir mewn cysylltiad â cheisiadau cymwys.

(2) Rhaid i’r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) nodi’r tir y mae’r cais cymwys yn ymwneud ag ef.

(3) Rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru gyhoeddi’r canlynol ar eu priod wefannau—

(a)     datganiad sy’n rhoi manylion y gwasanaethau cyn-ymgeisio a ddarperir ganddynt mewn cysylltiad â cheisiadau cymwys;

(b)     yn achos awdurdod cynllunio lleol—

                           (i)    y ffurflen y cyfeirir ati yn rheoliad 6(1)(a); a

                         (ii)    manylion y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â deisyfiadau am wasanaethau cyn-ymgeisio; ac

(c)     yn achos Gweinidogion Cymru, manylion y modd y cyfrifir y ffi am wasanaethau cyn-ymgeisio.

RHAN 3

Penodi a swyddogaethau penodedig

Penodi

10.(1) Cyn diwedd y cyfnod sylwadau rhaid i Weinidogion Cymru benodi person i arfer y swyddogaethau a ragnodir yn rheoliad 11.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol o enw’r person penodedig.

(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi person arall i gymryd lle’r person a benodwyd yn flaenorol—

(a)     rhaid hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol o enw’r person arall hwnnw;

(b)     neu, os na ellir gwneud hynny yn ymarferol cyn cynnal unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad, rhaid i’r person penodedig sy’n cynnal y gwrandawiad neu ymchwiliad gyhoeddi, ar y dechrau, ei enw a’r ffaith ei fod wedi ei benodi.

Swyddogaethau penodedig

11. Mae’r swyddogaethau canlynol wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 4D i Ddeddf 1990—

(a)     swyddogaethau o dan Orchymyn 2016, ac eithrio’r rhai o dan—

                           (i)    erthygl 28; a

                         (ii)    erthygl 29;

(b)     swyddogaethau o dan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016([22]), ac eithrio’r rhai o dan reoliad 12 o’r Rheoliadau hynny;

(c)     rhoi hysbysiad bod hysbysiad o gais wedi ei dderbyn o dan adran 62E(4) o Ddeddf 1990([23]);

(d)     rhoi hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol llunio adroddiad ar yr effaith leol o dan adran 62I(1)(b) a (2) o Ddeddf 1990([24]);

(e)     rhoi hysbysiad yn atal y cyfnod penderfynu dros dro neu’n terfynu, lleihau neu’n estyn cyfnod o ataliad o dan adran 62L(5) o Ddeddf 1990([25]);

(f)      hysbysu cynghorau cymuned o dan adran 62Q(2) o Ddeddf 1990([26]);

(g)     penderfynu ynglŷn â’r weithdrefn a ddilynir wrth ystyried achosion yn unol ag adran 319B(1) o Ddeddf 1990;

(h)     hysbysu’r ceisydd o’r penderfyniad ar weithdrefn o dan adran 319B(5) a (5A)([27]) o Ddeddf 1990;

(i)      cynnal ymchwiliad o dan adran 320 o Ddeddf 1990;

(j)      swyddogaethau o dan y rheoliadau canlynol—

                           (i)    rheoliad 4 (caniatáu amser ychwanegol);

                         (ii)    rheoliad 6 (cael deisyfiadau am wasanaethau cyn-ymgeisio);

                       (iii)    rheoliad 8 (gwasanaethau cyn-ymgeisio: Gweinidogion Cymru);

                        (iv)    rheoliad 9 (monitro a datganiad o wasanaethau);

                          (v)    rheoliad 10(2) (hysbysu ynghylch enw’r person penodedig);

                        (vi)    rheoliad 13 (penderfynu ar weithdrefn);

                      (vii)    rheoliad 14 (sylwadau sydd i’w cymryd i ystyriaeth);

                    (viii)    rheoliad 15 (gwybodaeth bellach);

                        (ix)    rheoliad 16 (arolygiadau safle);

                          (x)    rheoliad 21 (dyddiad a lleoliad y gwrandawiad);

                        (xi)    rheoliad 22 (hysbysiad cyhoeddus o’r gwrandawiad);

                      (xii)    rheoliad 23 (penodi asesydd);

                    (xiii)    rheoliad 24 (cymryd rhan mewn gwrandawiad);

                    (xiv)    rheoliad 25 (absenoldeb, gohirio, etc.);

                      (xv)    rheoliad 27 (gwrandawiad yn amhriodol);

                    (xvi)    rheoliad 32 (dyddiad yr ymchwiliad);

                  (xvii)    rheoliad 34 (ymchwiliad yn amhriodol);

                (xviii)    rheoliad 37 (gweithdrefn ar ôl dileu penderfyniad).

RHAN 4

Penderfynu ar weithdrefn

Cyfnod rhagnodedig

12. At ddibenion adran 319B(3) o Ddeddf 1990 y cyfnod rhagnodedig mewn perthynas â chais yw deg diwrnod gwaith, sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod sylwadau([28]).

Penderfynu ar weithdrefn

13.(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth wneud eu penderfyniad yn unol ag adran 319B o Ddeddf 1990, nodi pa faterion, os oes rhai, sydd i’w hystyried mewn gwrandawiad neu ymchwiliad.

(2) Rhaid i hysbysiad o dan adran 319B(5)—

(a)     nodi’r materion, os oes rhai, sydd i’w penderfynu mewn gwrandawiad neu ymchwiliad;

(b)     nodi materion y mae sylwadau pellach arnynt yn ofynnol ar gyfer Gweinidogion Cymru;

(c)     datgan pa un a yw sylwadau pellach o’r fath i’w cyflwyno mewn ysgrifen neu mewn gwrandawiad neu ymchwiliad; a

(d)     pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad, nodi pwy a wahoddir i gymryd rhan; neu

(e)     cynnwys datganiad bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu penderfynu’r cais ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(3) Mae darpariaethau rheoliad 15 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn am unrhyw sylwadau pellach.

RHAN 5

Gwybodaeth ac ymweliadau safle

Sylwadau sydd i’w cymryd i ystyriaeth

14.(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylw a wneir ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau, ac eithrio sylwadau a ddeisyfwyd yn unol â rheoliad 15.

(2) Y sylwadau y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn yw sylwadau a ragnodir yn erthygl 28 o Orchymyn 2016 at ddibenion adran 71(2)(a) o Ddeddf 1990 (ymgyngoriadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 70).

Gwybodaeth bellach

15.(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddeisyf sylwadau pellach gan—

(a)     y ceisydd;

(b)     yr awdurdod cynllunio lleol; ac

(c)     unrhyw berson â buddiant([29]) a wnaeth sylwadau mewn perthynas â’r cais yn ystod y cyfnod sylwadau.

(2) Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru ddeisyf mewn ysgrifen y canlynol—

(a)     gan y person sy’n gwneud unrhyw sylw, nifer penodedig o gopïau ychwanegol o’r sylw hwnnw;

(b)     ymatebion i gwestiynau a ofynnir gan Weinidogion Cymru ynghylch materion sy’n gynwysedig mewn unrhyw sylw.

(3) Rhaid i bob sylw ar unrhyw fater penodol a gyflwynir yn dilyn deisyfiad beidio â bod yn fwy na 3,000 o eiriau, a rhaid ei gyflwyno—

(a)     yn y modd a bennir gan Weinidogion Cymru;

(b)     ddim hwyrach na phedair wythnos ar ôl dyddiad y deisyfiad o dan baragraff (1).

(4) Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylw—

(a)     sy’n cyrraedd yn hwyr neu mewn modd gwahanol i’r modd a bennwyd;

(b)     sy’n fwy na 3,000 o eiriau;

(c)     yr ystyriant yn wacsaw neu’n flinderus; neu

(d)     sy’n ymwneud â rhinweddau polisi a nodir mewn cynllun datblygu neu mewn unrhyw ddatganiad polisi perthnasol a wnaed neu a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

(5) Os digwydd bod sylw ysgrifenedig yn fwy na 3,000 o eiriau, caiff Gweinidogion Cymru ddychwelyd y sylw at y person sy’n ei gyflwyno, gyda deisyfiad ei fod yn ailgyflwyno’r sylw mewn ffurf nad yw’n fwy na 3,000 o eiriau, a hynny o fewn pa bynnag amser a ddatgenir gan Weinidogion Cymru wrth ddychwelyd y sylw.

(6) Caiff Gweinidogion Cymru, yn ôl eu disgresiwn mewn unrhyw achos penodol, gynyddu’r nifer o eiriau ym mharagraff (3); ac yn unol â hynny, mae cyfeiriadau ar y nifer mwyaf o eiriau yn gyfeiriadau at y nifer ar ôl ei gynyddu felly.

(7) Rhaid i Weinidogion Cymru roi’r holl sylwadau ysgrifenedig ac ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a geir ganddynt ar gael ym mha bynnag fodd a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

Arolygiadau safle

16.(1) Caiff Gweinidogion Cymru arolygu’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud arolygiad o dan baragraff (1), cânt hysbysu’r ceisydd ac unrhyw berson arall ynghylch dyddiad ac amser yr arolygiad.

(3) Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ohirio arolygiad pan nad yw unrhyw berson (gan gynnwys y ceisydd) yn bresennol ar yr amser penodedig.

RHAN 6

Sylwadau ysgrifenedig

Cymhwyso Rhan 6

17.(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo—

(a)     hysbysiad derbyn wedi ei roi; a

(b)     Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad bod y cais i gael ei ystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig yn unig.

(2) Mae’r Rhan hon yn gymwys hefyd pan fo Gweinidogion Cymru—

(a)     wedi gwneud penderfyniad bod y cyfan neu ran o’r cais i gael ei ystyried neu ei hystyried ar sail gwrandawiad neu ymchwiliad; a

(b)     yn amrywio’r penderfyniad hwnnw yn ddiweddarach fel bod y cais i gael ei ystyried, neu rannau o’r cais i gael eu hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig,

i’r cyfryw raddau a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.

Adroddiad

18.(1) Rhaid i’r person penodedig lunio adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, a rhaid i’r adroddiad gynnwys casgliadau’r person penodedig a’i argymhellion (neu resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).

(2) Mae paragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn tueddu i anghytuno ag argymhelliad yn adroddiad y person penodedig oherwydd eu bod—

(a)     yn cymryd safbwynt gwahanol i’r person penodedig ynglŷn ag unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu sy’n ymddangos iddynt yn faterol berthnasol i gasgliad a gyrhaeddir ganddo, neu

(b)     wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi).

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chyrraedd penderfyniad sy’n groes i argymhelliad y person penodedig heb yn gyntaf—

(a)     hysbysu’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig ynghylch eu hanghytundeb a’u rhesymau dros anghytuno; a

(b)     cynnig cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(4) Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau ysgrifenedig sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cyfryw sylwadau o fewn pa bynnag gyfnod o amser a ddatgenir gan Weinidogion Cymru yn yr hysbysiad o dan baragraff (3).

(5) Caiff Gweinidogion Cymru beri cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad os byddant wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith, nad yw’n fater o bolisi.

(6) Pan fo gwrandawiad neu ymchwiliad i gael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach yn eu cylch, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan Weinidogion Cymru.

(7) Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (4) o’r rheoliad hwn.

Mynd ymlaen i benderfynu

19.(1) Caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen i benderfynu cais—

(a)     os na fydd sylwadau ysgrifenedig wedi eu gwneud o fewn y terfynau amser perthnasol, ar ôl rhoi i’r ceisydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol hysbysiad ysgrifenedig o’u bwriad i wneud hynny;

(b)     os bydd deisyfiad wedi ei wneud am sylwadau pellach, ar ôl diwedd pa bynnag gyfnod a ganiatawyd ar gyfer darparu sylwadau pellach.

(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw’r terfynau amser a ragnodwyd gan reoliadau 15 a 18 neu gan unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd o dan reoliad 4.

RHAN 7

Gwrandawiadau

Cymhwyso Rhan 7

20.(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo—

(a)     hysbysiad derbyn wedi ei roi; a

(b)     Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad bod y cais neu unrhyw fater i gael ei ystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gynnal gwrandawiad.

(2) Mae’r Rhan hon yn gymwys hefyd pan fo—

(a)     Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad bod y cyfan neu ran o’r cais i gael ei ystyried neu ei hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig neu ymchwiliad;

(b)     yn amrywio’r penderfyniad hwnnw yn ddiweddarach fel bod y cais i gael ei ystyried, neu rannau o’r cais i gael eu hystyried ar sail gwrandawiad; ac

(c)     Gweinidogion Cymru wedi peri cynnal gwrandawiad yn unol â rheoliad 18(5),

i’r cyfryw raddau a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.

Dyddiad a lleoliad y gwrandawiad

21.(1) Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r dyddiad ar gyfer y gwrandawiad.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r dyddiad ar gyfer y gwrandawiad—

(a)     peidio â bod yn hwyrach na deng wythnos ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau; a

(b)     bod o leiaf un wythnos ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer sylwadau pellach a ddeisyfir yn unol â rheoliad 15(1).

(3) Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai’n anymarferol cynnal y gwrandawiad ar ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (2), rhaid cynnal y gwrandawid ar y dyddiad cynharaf a ystyrir yn ymarferol gan Weinidogion Cymru.

(4) Rhaid i’r man lle cynhelir y gwrandawiad gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.

(5) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod gwahanol rannau o’r gwrandawiad i’w cynnal mewn gwahanol leoliadau pan fodlonir hwy, ar ôl ystyried natur y cais, ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(6) Oni fydd Gweinidogion Cymru wedi cytuno gyda’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfnod byrrach o rybudd, rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf bedair wythnos o rybudd ysgrifenedig o’r dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ganddynt ar gyfer cynnal y gwrandawiad, i’r ceisydd, i’r awdurdod cynllunio lleol ac i unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn y gwrandawiad.

(7) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad, pa un a fydd y dyddiad newydd o fewn y cyfnod o ddeng wythnos a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) ai peidio, ac mae paragraff (6) yn gymwys i amrywio dyddiad fel y mae’n gymwys i bennu’r dyddiad gwreiddiol.

(8) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amser neu’r lleoliad ar gyfer cynnal gwrandawiad, a rhaid iddynt roi cymaint o rybudd o unrhyw amrywiad ag sy’n ymddangos iddynt yn rhesymol.

Hysbysiad cyhoeddus o’r gwrandawiad

22.(1) Oni fydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo’n wahanol, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, ddim hwyrach na phedair wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad—

(a)     arddangos a chynnal hysbysiad o’r gwrandawiad yn y ffurf a ddarperir gan Weinidogion Cymru mewn man amlwg, neu (yn achos cais am ganiatâd ar gyfer gwaith llinellol ar y tir sy’n fwy na phum cilometr o hyd) fesul cyfwng o ddim mwy na phum cilometr, ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, neu mor agos ato ag sy’n rhesymol ymarferol;

(b)     arddangos a chynnal yr hysbysiad o’r gwrandawiad mewn un neu ragor o leoedd lle’r arddangosir hysbysiadau cyhoeddus fel arfer yn yr ardal y mae’r cynigion sydd yn y cais yn ymwneud â hi.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi hysbysiad o’r gwrandawiad drwy hysbysebu yn lleol yn yr ardal y bwriedir i’r cynigion sydd yn y cais gael effaith ynddi, gan gyhoeddi’r hysbysiad hwnnw ddim hwyrach na phedair wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad.

(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “drwy hysbysebu yn lleol” (“by local advertisement”) yw—

(a)     drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef; a

(b)     pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnal gwefan at y diben o hysbysebu ceisiadau, drwy gyhoeddi’r hysbysiad ar y wefan.

(4) Pan fo cyfarwyddyd wedi ei roi o dan reoliad 21(5), mae paragraff (1) yn cael effaith gydag amnewidiadau fel a ganlyn—

(a)     yn lle cyfeiriadau at y gwrandawiad, rhodder cyfeiriadau at y rhan o’r gwrandawiad sydd i’w chynnal mewn man a bennir yn y cyfarwyddyd hwnnw; a

(b)     yn lle cyfeiriadau at y cais, rhodder cyfeiriadau at y rhan o’r cais a fydd yn destun y rhan honno o’r gwrandawiad.

(5) Rhaid i unrhyw hysbysiad a arddangosir yn unol â pharagraff (1) fod yn hawdd i’w weld a’i ddarllen gan aelodau o’r cyhoedd.

(6) Os digwydd i’r hysbysiad, heb unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol nac unrhyw fwriad ganddo, gael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn dechrau’r gwrandawiad, ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol, am y rheswm hwnnw, ei drin fel pe na bai wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (5) os yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oedd angen, ei amnewid.

(7) Rhaid i hysbysiad o wrandawiad a arddangosir neu a gyhoeddir yn unol â pharagraffau (1) a (2) gynnwys y canlynol—

(a)     datganiad o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad;

(b)     datganiad bod y cais wedi ei wneud o dan adran 62D o Ddeddf 1990;

(c)     disgrifiad o’r cynigion a gynhwysir yn y cais, sy’n ddigonol ar gyfer adnabod lleoliad y datblygiad arfaethedig, drwy gyfeirio neu heb gyfeirio at fap penodedig;

(d)     disgrifiad o unrhyw gydsyniadau eilaidd y mae’r penderfyniad mewn perthynas â hwy i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru; a

(e)     manylion man lle y gellir edrych ar gopi o’r cais.

(8) Pan fo’r awdurdod wedi bodloni gofynion paragraff (1), rhaid iddo roi gwybod i Weinidogion Cymru ei fod wedi gwneud hynny, o fewn cyfnod o bum diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr arddangosir yr hysbysiad.

Penodi asesydd

23. Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi asesydd o dan baragraff 14 o Atodlen 4D i Ddeddf 1990, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan yn y gwrandawiad, o enw’r asesydd a’r materion y bydd yr asesydd yn cynghori’r person penodedig yn eu cylch.

Cymryd rhan mewn gwrandawiad

24.(1) Y personau a gaiff gymryd rhan yn y gwrandawiad yw’r canlynol—

(a)     y ceisydd;

(b)     yr awdurdod cynllunio lleol;

(c)     unrhyw berson a wahoddir gan Weinidogion Cymru i gymryd rhan.

(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) sy’n rhwystro Gweinidogion Cymru rhag caniatáu i unrhyw berson arall gymryd rhan mewn gwrandawiad.

(3) Caiff unrhyw berson sy’n cymryd rhan wneud hynny ar ei ran ei hunan neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.

Absenoldeb, gohirio, etc.

25.(1) Caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen â chynnal gwrandawiad yn absenoldeb y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru ohirio gwrandawiad o bryd i’w gilydd, ac os cyhoeddir dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig yn y gwrandawiad cyn ei ohirio, ni fydd unrhyw hysbysiad pellach yn ofynnol.

Gweithdrefn mewn gwrandawiad

26.(1) Y person penodedig sydd i lywyddu mewn unrhyw wrandawiad, a rhaid iddo benderfynu ar y weithdrefn yn y gwrandawiad, yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn.

(2) Rhaid cynnal gwrandawiad ar ffurf trafodaeth a arweinir gan y person penodedig, a rhaid peidio â chaniatáu croesholi.

(3) Pan fo’r person penodedig o’r farn bod croesholi yn angenrheidiol, rhaid i’r person penodedig ystyried (ar ôl ymgynghori â’r ceisydd) a ddylid cau’r gwrandawiad a chynnal ymchwiliad yn ei le.

(4) Ar ddechrau’r gwrandawiad, rhaid i’r person penodedig nodi pa faterion y mae’n ofynnol iddo, ym marn y person penodedig, gael sylwadau pellach arnynt yn y gwrandawiad.

(5) Mae hawl gan y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan mewn gwrandawiad i alw tystiolaeth.

(6) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall alw tystiolaeth.

(7) Caiff y person penodedig wrthod caniatáu rhoi neu ddangos tystiolaeth neu gyflwyno unrhyw fater arall a ystyrir gan y person penodedig yn amherthnasol neu’n ailadroddus.

(8) Pan fo’r person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth ar lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r gwrandawiad.

(9) Caiff y person penodedig—

(a)     ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson, sy’n cymryd rhan neu sy’n bresennol mewn gwrandawiad, yn ymadael os yw’n ymddwyn mewn modd sydd, ym marn y person penodedig, yn tarfu ar eraill; a

(b)     gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu

(c)     caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd ar y cyfryw amodau, yn unig, a bennir gan y person penodedig,

ond caiff unrhyw berson o’r fath gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r gwrandawiad.

(10) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu ddogfen arall a gaiff cyn cau’r gwrandawiad, ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn y gwrandawiad.

(11) Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad i gyflwyno cyflwyniadau cloi, a rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud hynny ddarparu copi ysgrifenedig o’i gyflwyniadau cloi i’r person penodedig cyn cau’r gwrandawiad.

(12) Yn ddarostyngedig i baragraff (7) caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson wneud sylwadau ar lafar yn y gwrandawiad.

(13) Caiff unrhyw berson sydd â hawl, neu a ganiateir, i wneud sylwadau ar lafar mewn gwrandawiad wneud hynny ar ei ran ei hunan, neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall

Gwrandawiad yn amhriodol

27. Ar unrhyw adeg yn ystod gwrandawiad, os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru nad yw’r weithdrefn gwrandawiad yn briodol, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cau’r gwrandawiad a naill ai trefnu i gynnal ymchwiliad yn ei le, neu benderfynu ystyried y mater ar sail sylwadau ysgrifenedig.

Gweithdrefn ac adroddiad ar ôl gwrandawiad

28.(1) Ar ôl cau’r gwrandawiad—

(a)     caiff yr asesydd (os penodwyd un) wneud adroddiad ysgrifenedig i’r person penodedig mewn cysylltiad â’r materion y penodwyd yr asesydd i gynorthwyo gyda hwy;

(b)     rhaid i’r person penodedig wneud adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a chynnwys ynddo gasgliadau’r person penodedig a’i argymhellion (neu resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).

(2) Pan fo asesydd yn gwneud adroddiad yn unol â pharagraff (1)(a), rhaid i’r person penodedig—

(a)     ei atodi ynghlwm wrth adroddiad y person penodedig ei hunan; a

(b)     datgan yn yr adroddiad hwnnw i ba raddau y mae’r person penodedig yn cytuno neu’n anghytuno ag adroddiad yr asesydd, a phan fo’r person penodedig yn anghytuno â’r asesydd, ddatgan y rhesymau dros yr anghytundeb hwnnw.

(3) Wrth wneud eu dyfarniad, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylwadau ysgrifenedig neu ddogfen arall a gânt ar ôl cau’r gwrandawiad.

(4) Mae paragraff (5) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cau’r gwrandawiad, yn anghytuno ag argymhelliad a wnaed gan y person penodedig, oherwydd eu bod—

(a)     yn cymryd safbwynt gwahanol i’r person penodedig ar fater o ffaith, a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu sy’n ymddangos iddynt yn faterol berthnasol i’r casgliad hwnnw, neu

(b)     wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater o ffaith newydd (nad yw’n fater o bolisi).

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dod i benderfyniad sy’n groes i argymhelliad y person penodedig heb yn gyntaf—

(a)     hysbysu’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig ac a gymerodd ran yn y gwrandawiad, ynghylch eu hanghytundeb a’u rhesymau dros anghytuno; a

(b)     rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(6) Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau ysgrifenedig sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cyfryw sylwadau o fewn y cyfnod a ddatgenir yn yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (5)(a).

(7) Caiff Gweinidogion Cymru, fel yr ystyriant yn briodol, beri bod gwrandawiad yn cael ei ailagor.

(8) Pan ailagorir gwrandawiad (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig gwahanol)—

(a)     rhaid i’r person penodedig anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig neu a gymerodd ran yn y gwrandawiad, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach mewn cysylltiad â hwy, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan y person penodedig; a

(b)     mae rheoliad 26 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad yn gyfeiriadau at wrandawiad a ailagorwyd.

(9) Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i’r person penodedig yn unol â pharagraff (6) o’r rheoliad hwn.

Penderfynu

29. Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cais—

(a)     ar ôl cau’r gwrandawiad neu unrhyw wrandawiad a ailagorwyd; neu

(b)     os yw’n ddiweddarach, pan fo’r cyfnod a ganiatawyd ar gyfer darparu sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 28(6) wedi dod i ben, pa un a gafwyd sylwadau yn ystod y cyfnod hwnnw ai peidio.

RHAN 8

Ymchwiliadau

Cymhwyso Rhan 8

30.(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo—

(a)     hysbysiad derbyn wedi ei roi; a

(b)     Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad bod y cais i gael ei ystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gynnal ymchwiliad lleol.

(2) Mae’r Rhan hon yn gymwys hefyd pan fo—

(a)     Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad bod y cyfan neu ran o’r cais i gael ei ystyried neu ei hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig neu wrandawiad; a

(b)     yn amrywio’r penderfyniad hwnnw yn ddiweddarach fel bod y cais i gael ei ystyried, neu rannau o’r cais i gael eu hystyried, ar sail ymchwiliad,

i’r cyfryw raddau a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.

(3) Mae rheoliadau 22 i 25 a 28 yn gymwys i ymchwiliadau lleol fel y maent yn gymwys i wrandawiadau, ac y unol â hynny mae’r rheoliadau hynny i’w darllen fel pe bai cyfeiriadau at wrandawiadau yn cynnwys cyfeiriadau at ymchwiliadau, i’r graddau y mae’r cyd-destun yn caniatáu ac yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon.

Cyfarfodydd cyn-ymchwiliad

31.(1) Caiff y person penodedig gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad cyn yr ymchwiliad, i ystyried beth ellir ei wneud er mwyn sicrhau y cynhelir yr ymchwiliad mewn modd effeithlon a didrafferth.

(2) Rhaid i berson penodedig roi dim llai na dwy wythnos o rybudd ysgrifenedig o unrhyw gyfarfod cyn-ymchwiliad y mae’r person penodedig yn bwriadu ei gynnal o dan baragraff (1), i’r canlynol—

(a)     y ceisydd;

(b)     yr awdurdod cynllunio lleol;

(c)     unrhyw berson a wahoddwyd gan y person penodedig i gymryd rhan yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad.

(3) Pan fo cyfarfod cyn-ymchwiliad wedi ei gynnal yn unol â pharagraff (1), caiff y person penodedig gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach, a rhaid iddo drefnu i roi cymaint o rybudd o’r cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach ag sy’n ymddangos yn angenrheidiol.

(4) Y person penodedig—

(a)     a fydd yn llywyddu mewn unrhyw gyfarfod cyn-ymchwiliad;

(b)     a fydd yn pennu’r materion sydd i’w trafod a’r weithdrefn sydd i’w dilyn;

(c)     caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy’n bresennol yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad yn ymadael os yw’n ymddwyn mewn modd sydd, ym marn y person penodedig, yn tarfu ar eraill; a

(d)     caiff wrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd nac ychwaith fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod cyn-ymchwiliad pellach; neu

(e)     caiff ganiatáu i’r person hwnnw ddychwelyd neu fod yn bresennol ar y cyfryw amodau, yn unig, a bennir gan y person penodedig.

Dyddiad a lleoliad yr ymchwiliad

32.(1) Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r dyddiad ar gyfer yr ymchwiliad.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r dyddiad a bennir ar gyfer cynnal ymchwiliad fod—

(a)     ddim hwyrach na—

                           (i)    13 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau; neu

                         (ii)    (os yw’n ddiweddarach) mwn achos pan gynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 31(1), pedair wythnos ar ôl diwedd y cyfarfod hwnnw (neu pa bynnag gyfnod byrrach ar ôl diwedd y cyfarfod hwnnw a gytunir rhwng y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r person penodedig); a

(b)     o leiaf un wythnos ar ôl y cyfnod a ganiatawyd ar gyfer sylwadau pellach a ddeisyfwyd yn unol â rheoliad 15(1) a (3).

(3) Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai’n anymarferol cynnal yr ymchwiliad ar ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (2), rhaid cynnal yr ymchwiliad ar y dyddiad cynharaf a ystyrir yn ymarferol gan Weinidogion Cymru.

(4) Rhaid i’r man lle cynhelir yr ymchwiliad gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.

(5) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod gwahanol rannau o’r ymchwiliad i’w cynnal mewn gwahanol leoliadau pan fodlonir hwy, ar ôl ystyried natur y cais, ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(6) Oni fydd Gweinidogion Cymru wedi cytuno gyda’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfnod byrrach o rybudd, rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf bedair wythnos o rybudd ysgrifenedig o’r dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ganddynt ar gyfer cynnal yr ymchwiliad, i’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac i unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

(7) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennwyd ar gyfer yr ymchwiliad, pa un a fydd y dyddiad newydd o fewn y cyfnod o dair wythnos ar ddeg a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) ai peidio; ac mae paragraff (6) yn gymwys i amrywio dyddiad fel y mae’n gymwys i bennu’r dyddiad gwreiddiol.

(8) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amser neu’r lleoliad ar gyfer cynnal ymchwiliad, a rhaid iddynt roi cymaint o rybudd o unrhyw amrywiad ag sy’n ymddangos iddynt yn rhesymol.

Gweithdrefn mewn ymchwiliad

33.(1) Y person penodedig sydd i lywyddu mewn unrhyw ymchwiliad, a rhaid iddo benderfynu ar y weithdrefn yn yr ymchwiliad, yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn.

(2) Oni fydd y person penodedig yn penderfynu’n wahanol mewn unrhyw achos penodol, y ceisydd sydd i ddechrau, a chlywir yr awdurdod cynllunio lleol a phersonau eraill ym mha bynnag drefn a bennir gan y person penodedig.

(3) Ar ddechrau’r ymchwiliad, rhaid i’r person penodedig nodi pa faterion y mae’n ofynnol iddo, ym marn y person penodedig, gael sylwadau pellach arnynt yn yr ymchwiliad.

(4) Mae hawl gan y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan mewn ymchwiliad i alw tystiolaeth.

(5) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall alw tystiolaeth.

(6) Mae hawl gan y ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol i groesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth, yn ddarostyngedig i baragraff (7).

(7) Caiff y person penodedig wrthod caniatáu—

(a)     rhoi neu ddangos tystiolaeth;

(b)     croesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth; neu

(c)     cyflwyno unrhyw fater arall,

a ystyrir gan y person penodedig yn amherthnasol neu’n ailadroddus.

(8) Pan fo’r person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth ar lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r ymchwiliad.

(9) Caiff y person penodedig—

(a)     ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson, sy’n cymryd rhan neu sy’n bresennol mewn ymchwiliad, yn ymadael os yw’n ymddwyn mewn modd sydd, ym marn y person penodedig, yn tarfu ar eraill; a

(b)     gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu

(c)     caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd ar y cyfryw amodau, yn unig, a bennir gan y person penodedig,

ond caiff unrhyw berson o’r fath gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r ymchwiliad.

(10) Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i’r person penodedig yn unol â pharagraff (8) neu (9) o’r rheoliad hwn.

(11) Caiff y person penodedig gyfarwyddo bod cyfleusterau i’w rhoi ar gael i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliad, ar gyfer gwneud neu gael copïau o ddogfennau sydd ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt.

(12) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a gafodd gan unrhyw berson cyn agor yr ymchwiliad neu yn ystod yr ymchwiliad, ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn yr ymchwiliad.

(13) Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad i wneud cyflwyniadau cloi.

(14) Rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud cyflwyniadau cloi ddarparu copi ysgrifenedig o’r cyflwyniadau cloi hynny i’r person penodedig cyn cau’r ymchwiliad.

Ymchwiliad yn amhriodol

34. Ar unrhyw adeg yn ystod ymchwiliad, os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru nad yw’r weithdrefn ymchwiliad yn briodol, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cau’r ymchwiliad a naill ai trefnu i gynnal gwrandawiad yn ei le, neu benderfynu bod y mater i fynd ymlaen ar sail sylwadau ysgrifenedig, gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.

Penderfynu

35. Caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen i benderfynu cais—

(a)     ar ôl cau’r ymchwiliad neu unrhyw ymchwiliad a ailagorwyd; neu

(b)     os yw’n ddiweddarach, pan fo’r cyfnod a ganiatawyd ar gyfer darparu sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 28(6) (fel y’i cymhwysir gan reoliad 30(3)) wedi dod i ben, pa un a gafwyd sylwadau o fewn y cyfnod hwnnw ai peidio.

Hysbysiad o benderfyniad

36.(1) Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r penderfyniad i unrhyw berson a ofynnodd am ei hysbysu o’r penderfyniad ac y mae Gweinidogion Cymru yn tybio y byddai’n rhesymol ei hysbysu.

(2) Ystyrir bod hysbysiad o benderfyniad a rhesymau o dan y rheoliad hwn wedi ei roi i berson pan fo—

(a)     Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi’r penderfyniad a’r rhesymau ar wefan; a

(b)     y person wedi ei hysbysu o’r canlynol—

                           (i)    cyhoeddi’r penderfyniad a’r rhesymau ar wefan;

                         (ii)    cyfeiriad y wefan.

(3) Pan nad anfonir copi o adroddiad y person penodedig gyda’r hysbysiad o’r penderfyniad, rhaid anfon yr hysbysiad ynghyd â datganiad o gasgliadau’r person penodedig ac o unrhyw argymhellion a wnaed gan y person penodedig.

(4) Yn y rheoliad hwn, nid yw “adroddiad” (“report”) yn cynnwys unrhyw ddogfennau a atodwyd wrth adroddiad y person penodedig; ond caiff unrhyw berson sydd wedi cael copi o’r adroddiad ofyn i Weinidogion Cymru, mewn ysgrifen, am gyfle i edrych ar unrhyw ddogfennau o’r fath, a rhaid i Weinidogion Cymru roi’r cyfle hwnnw i’r person hwnnw.

(5) At ddibenion paragraff (4), ystyrir bod y cyfle wedi ei roi i berson pan fo’r person hwnnw wedi ei hysbysu o’r canlynol—

(a)     cyhoeddi’r dogfennau perthnasol ar wefan;

(b)     cyfeiriad y wefan; ac

(c)     ym mhle ar y wefan y gellir cael mynediad i’r dogfennau a sut i gael mynediad iddynt.

RHAN 9

Penderfyniadau a ddilëir

Gweithdrefn sydd i’w dilyn ar ôl dileu penderfyniad

37.(1) Pan fo penderfyniad gan Weinidogion Cymru i ganiatáu neu wrthod cais wedi ei ddileu mewn achos gerbron unrhyw lys, a phan fo’n ofynnol i Weinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad—

(a)     rhaid iddynt anfon at y personau a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig, neu a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu ymchwiliad, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach mewn cysylltiad â hwy, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan Weinidogion Cymru;

(b)     rhaid iddynt roi cyfle i’r personau hynny wneud sylwadau ysgrifenedig i’w cyflwyno iddynt mewn cysylltiad â’r materion hynny; ac

(c)     fel yr ystyriant yn briodol, cânt—

                           (i)    peri ailagor y gwrandawiad neu ymchwiliad;

                         (ii)    yn achos gwrandawiad, peri cynnal ymchwiliad yn hytrach (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig arall);

                       (iii)    yn achos ymchwiliad, peri cynnal gwrandawiad yn hytrach (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig arall);

                        (iv)    peri cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad (pan na chynhaliwyd yr un yn flaenorol); neu

                          (v)    penderfynu’r mater ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn ailagor y gwrandawiad neu ymchwiliad, mae rheoliadau 21 a 32 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad yn gyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorwyd.

(3) Rhaid i’r personau hynny sy’n gwneud sylwadau sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cyfryw sylwadau o fewn y cyfnod a ddatgenir yn natganiad Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1)(a).

RHAN 10

Cyfarwyddydau diogelwch gwladol

Addasiadau pan roddir cyfarwyddyd diogelwch gwladol

38. Mae’r addasiadau i’r Rheoliadau hyn a nodir yn Atodlen 1 yn cael effaith mewn perthynas â cheisiadau a wneir o dan adran 62D o Ddeddf 1990 pan roddir cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 321(3) o Ddeddf 1990 (ymchwiliadau cynllunio i’w cynnal yn gyhoeddus, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol).

Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006

39.(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006([30]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 6(4) ar ôl “datblygiad mawr” mewnosoder “neu ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol”.

(3) Yn rheoliad 6(8) yn y man priodol mewnosoder—

ystyr “datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol” (“development of national significance”) yw datblygiad sydd o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf 1990.

RHAN 11

Cydsyniadau eilaidd

Cymhwyso’r Rhan hon

40.(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo penderfyniad mewn perthynas â chydsyniad eilaidd i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru—

(a)     yn rhinwedd adran 62F(2) o Ddeddf 1990; neu

(b)     o dan unrhyw ddeddfiad arall pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod y cydsyniad eilaidd yn gysylltiedig â chais o dan adran 62D o Ddeddf 1990.

(2) At ddibenion y Rhan hon, mae cyfeiriadau at Orchymyn 2016 yn gyfeiriadau at Orchymyn 2016 fel y bo ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Cymhwyso ac addasu deddfwriaeth sylfaenol

41. Pan gymhwysir Gorchymyn 2016, gydag addasiadau neu hebddynt, gan Atodlen i’r Rheoliadau hyn, yna, yn ychwanegol at unrhyw addasiadau yn yr Atodlen honno, mae’r Gorchymyn i’w ddarllen gydag addasiadau fel a ganlyn—

(a)     yn erthygl 5 ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Rhaid i geisydd hysbysu Gweinidogion Cymru a’r person perthnasol([31]) o’r holl gydsyniadau eilaidd([32]) y mae’r ceisydd yn bwriadu gwneud cais amdanynt a pha un a yw’r ceisydd yn bwriadu gwneud cais i Weinidogion Cymru neu i’r person perthnasol.;

(b)     ar ôl erthygl 12(7) mewnosoder—

(7A) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais am gydsyniad eilaidd, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi gwybod i’r person perthnasol eu bod wedi cael y cais.;

(c)     ar ôl erthygl 12 mewnosoder—

12A. Ar y diwrnod pan fo’r ceisydd yn gwneud cais, rhaid iddo gyflwyno i Weinidogion Cymru geisiadau am yr holl gydsyniadau eilaidd y mae’r ceisydd yn dymuno i Weinidogion Cymru eu penderfynu.;

(d)     yn erthygl 18(1) yn lle “Rhaid i gais gael ei hysbysebu” rhodder “Rhaid i gais a chais am gydsyniad eilaidd gael eu hysbysebu”;

(e)     yn erthygl 18, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r cyngor cymuned ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais am gydsyniad eilaidd yn ymwneud ag ef.;

(f)      yn erthygl 22, ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) At ddibenion yr erthygl hon, mae’r person perthnasol yn ymgynghorai arbenigol.;

(g)     hepgorer erthygl 24;

(h)     yn erthygl 27—

                           (i)    ym mharagraff (1) ar ôl “amrywio cais” mewnosoder “a chais am gydsyniad eilaidd”;

                         (ii)    ym mharagraff (2) ar ôl “cais penodol” mewnosoder “a chais am gydsyniad eilaidd”.

Rheolaeth ar waith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig

42. Mae Atodlen 2 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 2(3) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 (rheolaeth ar waith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig) ([33]).

Gosod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd

43. Mae Atodlen 3 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 178(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd)([34]).

Caniatâd adeilad rhestredig

44. Mae Atodlen 4 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 8(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (awdurdodi gwaith: caniatâd adeilad rhestredig)([35]).

Rheolaeth ar ddymchwel mewn ardaloedd cadwraeth

45. Mae Atodlen 5 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 74(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (rheolaeth ar ddymchwel mewn ardaloedd cadwraeth)([36]).

Cydsyniad sylweddau peryglus

46. Mae Atodlen 6 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan—

(a)     adran 4(1) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 ([37]) (gofyniad am gydsyniad sylweddau peryglus);

(b)     adran 13(1) o’r Ddeddf honno (cais am gydsyniad sylweddau peryglus heb amod a osodwyd ar gydsyniad blaenorol); ac

(c)     adran 17(1) o’r Ddeddf honno (diddymu cydsyniad sylweddau peryglus yn dilyn newid yn rheolaeth tir).

Caniatâd cynllunio

47. Mae Atodlen 7 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn ganiatâd cynllunio o dan adran 57(1) o Ddeddf 1990 (caniatâd cynllunio sy’n ofynnol ar gyfer datblygiad).

Priffyrdd yr effeithir arnynt gan ddatblygiad

48. Mae Atodlen 8 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd—

(a)     yn orchymyn o dan adran 247(1) o Ddeddf 1990 (priffyrdd yr effeithir arnynt gan ddatblygiad: gorchmynion gan yr Ysgrifennydd Gwladol) a Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y dylid gwneud gorchymyn o dan yr adran honno;

(b)     yn orchymyn o dan adran 248(2) o Ddeddf 1990 (priffyrdd sy’n croesi neu’n ymuno â llwybr priffordd newydd arfaethedig, etc.) ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru y byddai gorchymyn o dan yr adran honno yn hwylus er budd defnyddwyr y brif briffordd (fel y diffinnir “the main highway” yn adran 248(1)) neu er mwyn hwyluso symudiad traffig ar y brif briffordd;

(c)     yn orchymyn yn diddymu hawl tramwy cyhoeddus o dan adran 251(1) o Ddeddf 1990 (diddymu hawliau tramwy cyhoeddus dros dir a ddelir at ddibenion cynllunio).

Dadgofrestru a chyfnewid tir comin

49. Mae Atodlen 9 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (dadgofrestru a chyfnewid: ceisiadau)([38]).

Gwaith ar dir comin

50. Mae Atodlen 10 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 38(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (gwahardd gwneud gwaith heb gydsyniad).

RHAN 12

Ceisiadau a drinnir fel ceisiadau ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol

51. At ddibenion adran 62D(6) o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau sydd i’w gwneud i Weinidogion Cymru)([39]), rhaid peidio â thrin cais o fewn adran 62D(7) o’r Ddeddf honno fel cais ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol ac eithrio os yw’r cais—

(a)     yn ymwneud â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol fel y darperir ar ei gyfer yn adran 62D(3) a (4) o’r Ddeddf honno;

(b)     wedi ei wneud yn unol ag adran 73 o’r Ddeddf honno (penderfynu ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd yn flaenorol)([40]); ac

(c)     yn ymwneud â therfyn amser a osodwyd gan neu o dan adran 91 o’r Ddeddf honno (amod cyffredinol sy’n cyfyngu ar barhad caniatâd cynllunio)([41]).

 

 

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

 


                    ATODLEN 1       Rheoliad 38

Addasiadau pan roddir cyfarwyddyd diogelwch gwladol

Dehongli

1. Rhaid darllen rheoliad 2 fel pe bai’r canlynol wedi eu mewnosod yn y mannau priodol—

“ystyr “cyfarwyddyd diogelwch” (“security direction”) yw cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 321(3) o Ddeddf 1990 (materion yn ymwneud â diogelwch gwladol);”;

“ystyr “cynrychiolydd penodedig” (“appointed representative”) yw person a benodir o dan adran 321(5) neu (6) o Ddeddf 1990;”;

“ystyr “tystiolaeth gaeedig” (“closed evidence”) yw tystiolaeth sy’n destun cyfarwyddyd diogelwch;”.

Gwybodaeth bellach

2. Rhaid darllen rheoliad 15 fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (7)—

(7A) Nid yw paragraff (7) yn gymwys pan fo’r sylwadau a’r ymatebion ysgrifenedig a geir gan Weinidogion Cymru (“sylwadau pellach”) yn cynnwys neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig.

(7B) Pan fo sylwadau pellach yn cynnwys neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig—

(a)   rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael, anfon y sylwadau pellach at y ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd penodedig; a

(b)  rhaid rhoi’r sylwadau pellach (ac eithrio’r dystiolaeth gaeedig) ar gael ym mha bynnag fodd a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

Arolygiadau safle

3. Rhaid darllen rheoliad 16 fel a ganlyn—

(a)     ar ddiwedd paragraff (2) mewnosoder “a rhaid iddynt hysbysu felly unrhyw gynrychiolydd penodedig”;

(b)     ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Pan fo arolygiad safle yn cynnwys arolygu tystiolaeth gaeedig, caiff Gweinidogion Cymru arolygu’r tir yng nghwmni’r ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd penodedig.

Cyfarfodydd cyn-ymchwiliad

4. Rhaid darllen rheoliad 31(2) fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (b)—

(ba)  unrhyw gynrychiolydd penodedig;.

Dyddiad a lleoliad yr ymchwiliad

5. Rhaid darllen rheoliad 32(6) fel pe mewnosodwyd “, unrhyw gynrychiolydd penodedig” ar ôl “ceisydd” yn y ddau fan lle mae’n digwydd.

Absenoldeb, gohirio, etc.

6. Rhaid darllen rheoliad 25(1) (fel y’i cymhwysir i ymchwiliadau gan reoliad 30(3)) fel pe mewnosodwyd “, unrhyw gynrychiolydd penodedig,” ar ôl “ceisydd”.

Gweithdrefn mewn ymchwiliad

7. Rhaid darllen rheoliad 33 fel a ganlyn—

(a)     ym mharagraff (2) ar ôl “awdurdod cynllunio lleol” mewnosoder “, unrhyw gynrychiolydd penodedig”;

(b)     ym mharagraff (4) ar ôl “awdurdod cynllunio lleol” mewnosoder “, unrhyw gynrychiolydd penodedig”;

(c)     ym mharagraff (6) ar ôl “ceisydd” mewnosoder “, unrhyw gynrychiolydd penodedig”;

(d)     ar ddiwedd paragraff (12) mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (12A)”;

(e)     ar ôl paragraff (12) mewnosoder—

(12A) Pan fo unrhyw sylw ysgrifenedig neu ddogfen arall (“gwybodaeth bellach”) yn cynnwys tystiolaeth gaeedig, rhaid i’r person penodedig—

(a)   datgelu’r wybodaeth bellach i’r ceisydd ac i unrhyw gynrychiolydd penodedig;

(b)  datgelu’r wybodaeth bellach ac eithrio unrhyw dystiolaeth gaeedig i’r awdurdod cynllunio lleol ac i bob person arall sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad.

Gweithdrefn ar ôl ymchwiliad

8. Rhaid darllen rheoliad 28 (fel y’i cymhwysir i ymchwiliadau gan reoliad 30(3)) fel a ganlyn—

(a)     ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Pan ystyriwyd tystiolaeth gaeedig yn yr ymchwiliad—

(a)   rhaid i’r person penodedig a’r asesydd, pan fo un wedi ei benodi, nodi mewn rhan ar wahân o’u hadroddiadau (“y rhan gaeedig”) unrhyw ddisgrifiad o’r dystiolaeth honno ynghyd ag unrhyw gasgliadau neu argymhellion mewn perthynas â’r dystiolaeth honno; a

(b)  pan fo asesydd wedi ei benodi, rhaid i’r person penodedig atodi’r rhan gaeedig o adroddiad yr asesydd wrth ran gaeedig adroddiad y person penodedig, a rhaid iddo ddatgan, yn rhan gaeedig yr adroddiad hwnnw, y lefel o gytundeb neu anghytundeb â rhan gaeedig adroddiad yr asesydd, a phan fo anghytundeb â’r asesydd, y rhesymau am yr anghytundeb hwnnw.;

(b)     ym mharagraff (4) ar ôl “Mae paragraff (5) yn gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff (5A)”;

(c)     ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(5A) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymryd safbwynt gwahanol i’r person penodedig ar unrhyw fater o ffaith, a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru yn faterol berthnasol i’r casgliad hwnnw, mewn perthynas â mater y rhoddwyd tystiolaeth gaeedig yn ei gylch, rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) gynnwys y rhesymau pam y mae Gweinidogion Cymru yn anghytuno, oni bai—

(a)   bod yr hysbysiad wedi ei gyfeirio at berson nad yw’n gynrychiolydd penodedig nac yn unrhyw berson a bennir, nac o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd diogelwch; a

(b)  byddai cynnwys y rhesymau yn datgelu unrhyw ran o’r dystiolaeth gaeedig.;

(d)     ym mharagraff (8) ar ôl “ceisydd” mewnosoder “, y cynrychiolydd penodedig,”.

Gweithdrefn ar ôl dileu penderfyniad

9. Rhaid darllen rheoliad 37 fel a ganlyn—

(a)     ar ddechrau is-baragraff (a) o baragraff (1) mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (1A),”; a

(b)     ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Pan fydd y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yn cynnwys ystyried tystiolaeth gaeedig, rhaid i Weinidogion Cymru anfon y datganiad ysgrifenedig at neb ond y canlynol—

(a)   unrhyw gynrychiolydd penodedig; a

(b)  person a bennwyd, neu berson o unrhyw ddisgrifiad a bennwyd, yn y cyfarwyddyd diogelwch.

Peidio â datgelu tystiolaeth gaeedig

10. Rhaid darllen Rhan 10 fel pe mewnosodwyd y canlynol ar ôl rheoliad 39

Peidio â datgelu tystiolaeth gaeedig

39A. Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sydd i’w ystyried fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol nac yn caniatáu datgelu tystiolaeth gaeedig i berson ac eithrio—

(a)   Gweinidogion Cymru;

(b)  y cynrychiolydd penodedig; neu

(c)   person a bennwyd, neu berson o unrhyw ddisgrifiad a bennwyd, yn y cyfarwyddyd diogelwch.

                    ATODLEN 2       Rheoliad 42

Rheolaeth ar waith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig

1.(1) Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2) Rhaid darllen erthygl 15 (derbyn ceisiadau), yn achos cydsyniad o dan adran 2 o Ddeddf 1979 (rheolaeth ar waith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig), fel pe bai’r cais yn dod gydag—

(a)     un neu ragor o’r tystysgrifau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno([42]) wedi eu llofnodi gan neu ar ran y ceisydd; a

(b)     yr eitemau a restrir yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) 1981([43]).

2.(1) Mae darpariaethau’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â rhoi cydsyniad o dan adran 2(3) o Ddeddf 1979 yn ddarostyngedig i’r addasiad canlynol.

(2) Yn rheoliad 2 rhaid darllen y diffiniad o “person penodedig” fel “yw’r person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 3(2)(b) o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1979”.

                    ATODLEN 3       Rheoliad 43

Gosod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd: addasu deddfwriaeth sylfaenol

1. Rhaid darllen adran 178 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cyfyngiad ar osod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd) fel a ganlyn—

(a)     yn is-adran (1) rhaid darllen cyfeiriadau at “the highway authority for the highway” ac at “the highway authority” fel cyfeiriadau at “the Welsh Ministers”;

(b)     hepgorer is-adrannau (2) a (3).

                    ATODLEN 4       Rheoliad 44

Caniatâd adeilad rhestredig

RHAN 1

Addasu deddfwriaeth sylfaenol

1.(2) Mae Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990([44]) (“y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”) (“the Listed Buildings Act”) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(3) Rhaid darllen adran 10 (gwneud ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig) fel a ganlyn—

(a)     yn lle is-adran (1) rhodder “An application for listed building consent must be made to and dealt with by the Welsh Ministers”;

(b)     yn is-adran (2)(c) yn lle “the authority” rhodder “the Welsh Ministers”.

(4) Rhaid darllen adran 62 (dilysrwydd gorchmynion a phenderfyniadau penodol) fel a ganlyn—

(a)     yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a), mewnosoder y canlynol—

(aza) any decision on an application for listed building consent where that decision is made by the Welsh Ministers by virtue of section 62F(2) of the principal Act.;

(b)     yn is-adrannau (1) a (3) rhodder “the Welsh Ministers” yn lle “the Secretary of State” mewn perthynas â phenderfyniadau sydd o fewn is-adran (2)(aza).

RHAN 2

Addasu is-ddeddfwriaeth

2.(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012([45]) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2) Rhaid darllen rheoliad 3 (ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth) fel a ganlyn—

(a)     ym mharagraff (1)(a) yn lle “i awdurdod cynllunio lleol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(b)     ym mharagraff (1)(c)(ii) a (iii) yn lle “fod yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “fod Gweinidogion Cymru”;

(c)     hepgorer paragraff (3) a Rhan 1 o Atodlen 1;

(d)     ym mharagraff (4) yn lle “awdurdod cynllunio lleol yn barnu, wedi iddo anfon y gydnabyddiaeth fel sy'n ofynnol gan baragraff (3), fod y cais yn annilys, rhaid iddo” rhodder “Gweinidogion Cymru yn barnu bod y cais yn annilys, rhaid iddynt”;

(e)     yn lle paragraff (5) rhodder—

(5) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael cais dilys, yr amser a ganiateir iddynt ar gyfer rhoi hysbysiad o’u penderfyniad i’r ceisydd yw’r cyfnod penderfynu fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf.;

(f)      ym mharagraff (6) hepgorer “neu hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru” ac yn lle “awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu rhoi” rhodder “Gweinidogion Cymru yn penderfynu rhoi”;

(g)     hepgorer paragraff (7).

(3) Rhaid darllen rheoliad 6(1) fel pe rhoddid “unrhyw gais am ganiatâd adeilad rhestredig, pan fo’r penderfyniad ar y caniatâd hwnnw i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 62F o’r brif Ddeddf,” yn lle “unrhyw gais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd adeilad rhestredig”.

(4) Rhaid darllen rheoliad 7 (tystysgrif sydd i ddod gyda cheisiadau ac apelau) fel a ganlyn—

(a)     ym mharagraff (1) yn lle “awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Weinidogion Cymru” a hepgorer “neu 4”;

(b)     ym mharagraff (3)—

                           (i)    hepgorer “neu 4”;

                         (ii)    yn lle “yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Gweinidogion Cymru”;

                       (iii)    yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a) rhaid iddynt benderfynu’r cais cyn diwedd y cyfnod penderfynu y darperir ar ei gyfer yn adran 62L o Ddeddf 1990”;

                        (iv)    yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b) wrth benderfynu'r cais rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau sy’n ymwneud ag ef a wneir iddynt cyn diwedd y cyfnod sylwadau y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 gan unrhyw berson sy'n bodloni Gweinidogion Cymru fod y person yn berchennog ar yr adeilad neu unrhyw ran ohono;.

(5) Nid yw rheoliadau 8 a 9 yn gymwys.

(6) Rhaid darllen rheoliad 10 (hysbysebu ceisiadau) fel a ganlyn—

(a)     hepgorer paragraff (1); a

(b)     yn lle paragraff (2) rhodder—

Yr amser a ganiateir i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r ceisydd o’u penderfyniad yw’r cyfnod penderfynu, fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf.

(7) Hepgorer rheoliadau 11, 12 a 12A.

3.(1) Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2) Rhaid darllen erthygl 15 (derbyn ceisiadau) fel pe bai’r cais, yn achos cais am ganiatâd o dan adran 8 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn dod gyda’r eitemau hynny a restrir yn rheoliadau 3(1), 3(2) a 6 (datganiadau dylunio a mynediad) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012.

(3) Rhaid darllen erthygl 18 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru) fel pe na bai’n gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais am—

(a)     caniatâd adeilad rhestredig i wneud gwaith sy’n effeithio yn unig ar du mewn adeilad a ddosbarthwyd fel adeilad rhestredig Gradd II (di-seren) pan hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch ddiwethaf gan Weinidogion Cymru, fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig; neu

(b)     amrywio neu ryddhau o amodau a osodwyd ar ganiatâd adeilad rhestredig mewn cysylltiad â thu mewn adeilad rhestredig Gradd II (di-seren) o’r fath.

                    ATODLEN 5       Rheoliad 45

Dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth

RHAN 1

Addasu deddfwriaeth sylfaenol

1. Rhaid darllen adran 74(2) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”) (rheolaeth ar ddymchwel mewn ardaloedd cadwraeth) fel pe bai “and” wedi ei hepgor o baragraff (a) a’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl y paragraff hwnnw—

(aa)  in relation to applications where the decision on the consent is to be made by the Welsh Ministers by virtue of section 62F(2) of the principal Act (developments of national significance: meaning of secondary consents), the Welsh Ministers; and.

RHAN 2

Addasu is-ddeddfwriaeth

2.(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012([46]), mewn perthynas â rhoi caniatâd o dan adran 74(2) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol.

(2) Rhaid darllen rheoliad 3 (ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth) fel a ganlyn—

(a)     ym mharagraff (1)(a) yn lle “i awdurdod cynllunio lleol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(b)     ym mharagraff (1)(c)(ii) a (iii) yn lle “fod yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “fod Gweinidogion Cymru”.

(c)     hepgorer paragraff (3) a Rhan 1 o Atodlen 1;

(d)     ym mharagraff (4) yn lle “awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Gweinidogion Cymru” ac yn lle “iddo”, yn y ddau fan lle mae’n digwydd, rhodder “iddynt”;

(e)     yn lle paragraff (5) rhodder—

(5) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael cais dilys o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’u penderfyniad i’r ceisydd cyn diwedd y cyfnod penderfynu fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf. ;

(f)      ym mharagraff (6) hepgorer “neu hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru”; yn lle “awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu rhoi caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd” rhodder “Gweinidogion Cymru yn penderfynu rhoi caniatâd”; ac yn lle “neu eu gwrthod” rhodder “neu ei wrthod”;

(g)     hepgorer paragraff (7).

(3) Rhaid darllen rheoliad 6(1) fel pe rhoddid “unrhyw gais am ganiatâd ardal gadwraeth pan fo’r penderfyniad ar y caniatâd hwnnw i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 62F o’r brif Ddeddf” yn lle “unrhyw gais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd adeilad rhestredig”.

(4) Rhaid darllen rheoliad 7 (tystysgrif sydd i ddod gyda cheisiadau ac apelau) fel a ganlyn—

(a)     ym mharagraff (1) yn lle “awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Weinidogion Cymru” a hepgorer “neu 4”;

(b)     ym mharagraff (3)—

                           (i)    hepgorer “neu 4”;

                         (ii)    yn lle “yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Gweinidogion Cymru”;

                       (iii)    yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a) rhaid iddynt benderfynu’r cais cyn diwedd y cyfnod penderfynu fel y darperir ar ei gyfer yn adran 62L o’r brif Ddeddf;

                        (iv)    yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b) wrth benderfynu'r cais rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau sy’n ymwneud ag ef a wneir iddynt cyn diwedd y cyfnod sylwadau y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 gan unrhyw berson sy'n bodloni Gweinidogion Cymru fod y person yn berchennog ar yr adeilad neu unrhyw ran ohono;”.

(5) Nid yw rheoliadau 8 (defnyddio cyfathrebiadau electronig) a 9 (ceisiadau gan awdurdodau cynllunio lleol) yn gymwys.

(6) Rhaid darllen rheoliad 10 (hysbysebu ceisiadau) gydag addasiadau fel a ganlyn —

(a)     hepgorer paragraff (1); a

(b)     yn lle paragraff (2) rhodder—

Yr amser a ganiateir i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r ceisydd o’u penderfyniad yw’r cyfnod penderfynu, fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf.

(7) Nid yw rheoliadau 11 (hysbyseb am geisiadau am waith brys mewn perthynas â datblygiad gan y Goron), 12 (apelau) a 12A (apêl wedi ei wneud: swyddogaethau’r awdurdod cynllunio lleol) yn gymwys.

3.(1) Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2) Rhaid darllen erthygl 15 (derbyn ceisiadau) fel pe bai’r cais, yn achos caniatâd o dan adran 74 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn dod gyda’r eitemau hynny a restrir yn rheoliad 3(1) a (2) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012.

(3) Nid yw erthygl 18 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais am—

(a)     caniatâd adeilad rhestredig i wneud gwaith sy’n effeithio yn unig ar du mewn adeilad a ddosbarthwyd fel adeilad rhestredig Gradd II (di-seren) pan hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch ddiwethaf gan Weinidogion Cymru, fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig; neu

(b)     amrywio neu ryddhau o amodau a osodwyd ar ganiatâd adeilad rhestredig mewn cysylltiad â thu mewn adeilad rhestredig Gradd II (di-seren) o’r fath.

                    ATODLEN 6       Rheoliad 46

Cydsyniad sylweddau peryglus

RHAN 1

Addasu deddfwriaeth sylfaenol

1.(1) Mae Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (“y Ddeddf Sylweddau Peryglus”) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2) Rhaid darllen adran 9 (penderfynu ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus) ac adran 10 (pŵer i osod amodau wrth roi cydsyniad sylweddau peryglus) fel pe bai cyfeiriadau at “the hazardous substances authority” yn gyfeiriadau at “the Welsh Ministers”.

RHAN 2

Addasu is-ddeddfwriaeth

2.(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015([47]), mewn perthynas â rhoi cydsyniad o dan adrannau 4(1), 13 a 17 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol.

(2) Rhaid darllen rheoliad 5(1)(a) fel pe rhoddid “i Weinidogion Cymru” yn lle “i’r awdurdod sylweddau peryglus”.

(3) Rhaid darllen rheoliad 6 (cyhoeddi hysbysiadau o geisiadau) fel pe rhoddid “i Weinidogion Cymru” yn lle “i’r awdurdod sylweddau peryglus” ym mhob man lle mae’n digwydd, a “Gweinidogion Cymru” yn lle “yr awdurdod sylweddau peryglus” yn y ddau fan lle mae’n digwydd.

(4) Rhaid darllen rheoliad 7(1) fel pe rhoddid “Gweinidogion Cymru” yn lle “awdurdod sylweddau peryglus”.

(5) Rhaid darllen rheoliad 8 (edrych ar geisiadau) fel pe rhoddid yn ei le y canlynol—

“Ar ôl cael cais o dan reoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod copi o’r cais ar gael i edrych arno yn swyddfeydd y person perthnasol yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau yn unol â rheoliad 6(1).”

(6) Rhaid darllen rheoliad 9 (ceisiadau yn dod i law awdurdod sylweddau peryglus) fel pe rhoddid “Gweinidogion Cymru” yn lle “awdurdod sylweddau peryglus” ym mhob man lle mae’n digwydd.

(7) Rhaid darllen rheoliad 10 (ymgynghori cyn rhoi cydsyniad sylweddau peryglus) fel a ganlyn—

(a)     ym mharagraff (1) yn lle “hysbysu’r awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru” ac yn lle “i’r awdurdod” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(b)     yn lle paragraff (1)(b) rhodder “y person perthnasol;”;

(c)     yn lle paragraff (1)(j) rhodder “pan fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru y gellid effeithio ar dir yn ardal unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ac eithrio’r person perthnasol, y cyngor hwnnw;”;

(d)     ym mharagraff (1)(m) hepgorer “, os nad yr awdurdod hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd”;

(e)     ym mharagraffau (2) a (3) yn lle “awdurdod sylweddau peryglus” ac “yr awdurdod” rhodder “Gweinidogion Cymru”;

(f)      ym mharagraff (4) yn lle “i awdurdod sylweddau peryglus” ac “i’r awdurdod” rhodder “i Weinidogion Cymru”.

(8) Rhaid darllen rheoliad 11 (penderfynu ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus) fel a ganlyn—

(a)     ym mharagraff (1) yn lle “awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “Gweinidogion Cymru” ac mae’r cyfeiriadau at reoliadau 6(1) a 10(3) yn gyfeiriadau at y rheoliadau hynny fel y’u haddaswyd gan is-baragraffau (3) a (7) uchod;

(b)     ym mharagraff (2) yn lle “i’r awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(c)     yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r ceisydd hysbysiad ysgrifenedig o’u penderfyniad o fewn y cyfnod penderfynu fel y’i disgrifir yn adran 62L o Ddeddf 1990.;

(d)     hepgorer paragraff (4);

(e)     ym mharagraff (5) yn lle “awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “Gweinidogion Cymru” a hepgorer paragraff (5)(b) a’r gair “a” sy’n ei ragflaenu;

(f)      ym mharagraff (6), yn lle “i’r awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “i Weinidogion Cymru” ac yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c) y person perthnasol dan sylw;

(g)     ym mharagraff (7) yn lle “Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “Rhaid i Weinidogion Cymru”.

(9) Rhaid darllen rheoliad 22 (y gofrestr cydsyniadau) fel pe mewnosodwyd y canlynol ar ôl paragraff (2)—

(2A) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod sylweddau peryglus ynghylch yr holl faterion mewn perthynas â chydsyniad eilaidd y mae’n rhaid eu cynnwys yn y gofrestr. 

3. Rhaid darllen rheoliadau 15 i 33 o’r Rheoliadau hyn, wrth eu cymhwyso i roi cydsyniad o dan adrannau 4(1), 13 a 17 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, fel pe rhoddid “awdurdod sylweddau peryglus” yn lle “awdurdod cynllunio lleol” ym mhob man lle mae’n ymddangos.

                    ATODLEN 7       Rheoliad 47

Caniatâd cynllunio

RHAN 1

Addasu deddfwriaeth sylfaenol

1.(1) Mae darpariaethau canlynol Deddf 1990 yn gymwys gydag addasiadau fel bod cyfeiriadau at “local planning authority” i’w trin fel cyfeiriadau at “the Welsh Ministers”—

(a)     adran 62(1);

(b)     adran 62(3);

(c)     adran 65(5);

(d)     adran 70(1);

(e)     adran 70(2)([48]);

(f)      adran 70A(1)([49]);

(g)     adran 70A(2);

(h)     adran 71(1)([50]);

(i)      adran 71(2);

(j)      adran 72(1);

(k)     adran 73(2);

(l)      adran 73A(1)([51]); ac

(m)   adran 327A(2)([52]).

(2) Pan fo unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf 1990 yn cyfeirio at ddarpariaeth a addaswyd gan y Rheoliadau hyn, rhaid darllen y cyfeiriad, mewn perthynas â chais o dan adran 62D o’r Ddeddf honno, fel cyfeiriad at y ddarpariaeth fel y’i haddaswyd.

RHAN 2

Addasu is-ddeddfwriaeth

2.(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012([53]) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2) Nid yw erthyglau 1 i 23, 25 i 28 a 31 i 33 yn gymwys.

3.(1) Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2) Nid yw erthygl 29 (hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad mewn perthynas â chais) ac erthygl 30 (hysbysiad diwygiedig o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio) yn gymwys.

                    ATODLEN 8       Rheoliad 48

Priffyrdd yr effeithir arnynt gan ddatblygiad

Addasu is-ddeddfwriaeth

1.(1) Mae’r darpariaethau canlynol o’r Rheoliadau hyn, mewn perthynas â gorchmynion o dan adrannau 247(1), 248(2) a 251(1) o Ddeddf 1990, yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2) At ddiben rheoliadau 17, 20 a 30, mae Rhannau 6, 7 ac 8 hefyd yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio â chynnal gwrandawiad neu ymchwiliad cyn gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990.

(3) Rhaid i adroddiad y person penodedig o dan reoliadau 18 (adroddiad) a 28 (gweithdrefn ac adroddiad ar ôl gwrandawiad) gynnwys, yn ychwanegol at gasgliadau ac argymhellion y person penodedig mewn perthynas â’r cais, argymhelliad mewn perthynas â gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990.

(4) Rhaid darllen rheoliad 18(3)(a) fel pe rhoddid “personau a fu’n gwrthwynebu gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990” yn lle “personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig”.

(5) Rhaid darllen rheoliad 21(5) fel pe rhoddid “gorchymyn arfaethedig o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990” yn lle’r cyfeiriad at “y cais”.

(6) Rhaid i hysbysiad o dan reoliad 22(7) gynnwys, yn ychwanegol, y materion hynny a restrir yn adran 252(1) o Ddeddf 1990.

(7) Rhaid darllen rheoliad 28 fel a ganlyn—

(a)     ym mharagraff (3), yn lle “sylwadau ysgrifenedig neu ddogfen arall a gânt” rhodder “unrhyw wrthwynebiad i wneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990 sy’n cyrraedd”;

(b)     ym mharagraff (5)(a) yn lle “a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig” rhodder “a fu’n gwrthwynebu gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990”;

(c)     ym mharagraff (8)(a) yn lle “a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig” rhodder “a fu’n gwrthwynebu gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990”.

                    ATODLEN 9       Rheoliad 49

Dadgofrestru a chyfnewid tir comin

Addasu is-ddeddfwriaeth

1.(1) Mae Rheoliadau Dadgofrestru a Chyfnewid Tir Comin a Meysydd Tref neu Bentref (Gweithdrefn) (Cymru) 2012([54]) mewn perthynas â chydsyniad a geisir o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2) Rhaid darllen y diffiniad o “arolygydd” (“inspector”) yn rheoliad 2(2) fel pe bai is-baragraff (b) a’r gair “neu” sy’n ei ragflaenu wedi eu hepgor.

(3) Nid yw rheoliadau 4 i 9 yn gymwys.

(4) Rhaid darllen rheoliad 10(1) fel pe rhoddid “at Weinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod sylwadau” yn lle “at yr awdurdod sy'n penderfynu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o gais”.

(5) Nid yw rheoliad 10(3) i (6) yn gymwys.

(6) Nid yw rheoliadau 11 i 18 yn gymwys.

2.(1) Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2) Rhaid darllen erthygl 2 (dehongli) fel pe bai’r canlynol wedi eu mewnosod yn y mannau priodol—

“ystyr “cofrestr” (“register”) yw cofrestr o dir comin neu gofrestr o feysydd tref neu bentref;”;

“mae i “tir a ryddheir” yr ystyr a roddir i “release land” yn adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;” ac

“mae i “tir cyfnewid” yr ystyr a roddir i “replacement land” yn adran 16(3) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;”.

(3) Rhaid darllen erthygl 12 (ceisiadau: gofynion cyffredinol) fel pe bai rhaid i’r cais ddod gydag—

(a)     map Ordnans, ar raddfa nad yw’n llai nag 1: 2,500 os oes un ar gael, a dim llai beth bynnag nag 1:10,000, sy’n dangos—

                           (i)    ffin y tir a ryddheir wedi ei marcio â lliw coch;

                         (ii)    os yw’r tir a ryddheir yn rhan o’r tir mewn uned gofrestr fwy, ffin y tir yn yr uned gofrestr honno wedi ei marcio â lliw gwyrdd tywyll; a

                       (iii)    ffin unrhyw dir cyfnewid wedi ei marcio mewn lliw gwyrdd golau; a

(b)     copi o’r cofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â’r tir a ryddheir neu’r tir sy’n cynnwys y tir a ryddheir.

(4) Rhaid darllen erthygl 18 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru) fel pe bai’r hysbysiad gofynnol yn cynnwys—

(a)     enw’r ceisydd;

(b)     enw’r tir comin neu’r maes tref neu bentref yr effeithir arno gan y cynnig;

(c)     lleoliad y tir a ryddheir a’i arwynebedd mewn metrau sgwâr;

(d)     pa un ai yw’r cais yn cynnwys cynnig ai peidio i gofrestru tir fel tir cyfnewid, ac os felly, lleoliad y tir cyfnewid a’i arwynebedd mewn metrau sgwâr;

(e)     datganiad byr o’r rheswm dros wneud y cais.

(5) Rhaid darllen erthygl 18(2)(b) fel pe bai rhaid anfon yr hysbysiad gofynnol at—

(a)     unrhyw berson (ac eithrio’r ceisydd) sy’n meddiannu’r tir a ryddheir;

(b)     meddiannydd unrhyw eiddo a ddangosir yn y gofrestr fel eiddo y mae hawliau comin ar y tir a ryddheir yn gysylltiedig ag ef, ac y cred y ceisydd fod y meddiannydd yn arfer yr hawliau hynny, neu fod y cais yn debygol o effeithio arno;

(c)     unrhyw berson arall y gŵyr y ceisydd fod hawl ganddo i arfer hawliau comin ar y tir a ryddheir ac y cred y ceisydd ei fod yn arfer yr hawliau hynny, neu fod y cais yn debygol o effeithio arno; a

(d)     y cyngor neu’r cynghorau cymuned (os oes un) ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi neu ynddynt y tir a ryddheir a’r tir cyfnewid.

(6) Rhaid darllen erthygl 18(3) fel pe bai rhaid i’r wybodaeth sydd i’w chyhoeddi ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru gynnwys y materion a restrir yn is-baragraff (4)(a) i (e).

(7) Rhaid darllen erthygl 19(2) fel pe rhoddid yn ei lle y canlynol:

(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad drwy arddangos ar y safle, mewn ffurf a gyflenwir i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru, am ddim llai na 21 diwrnod yn y prif fannau mynediad i’r canlynol (neu, os nad oes lleoedd o’r fath, mewn man amlwg ar ffin)—

                       (i)  y tir a ryddheir; a

                      (ii)  y tir cyfnewid (os oes tir cyfnewid).”

(8) Rhaid darllen erthygl 29 (hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad mewn perthynas â chais) fel pe bai rhaid hefyd i Weinidogion Cymru—

(a)     anfon eu gorchymyn o dan adran 17 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 at yr awdurdod cofrestru tiroedd comin ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r tir a ryddheir a’r tir cyfnewid (os oes tir cyfnewid); a

(b)     anfon copi o’r gorchymyn at y ceisydd.

3.(1) Mae darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn mewn perthynas â chydsyniad a geisir o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2) Rhaid darllen rheoliad 2 (dehongli)—

(a)     fel pe bai cyfeiriad at “person penodedig” (“appointed person”) yn gyfeiriad at y person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o Reoliadau Dadgofrestru a Chyfnewid Tir Comin a Meysydd Tref neu Bentref (Gweithdrefn) (Cymru) 2012 i arfer pob un neu unrhyw rai o’u swyddogaethau o dan adran 16 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn gyffredinol neu mewn perthynas â’r cais;

(b)     fel pe bai’r canlynol wedi eu mewnosod yn y mannau priodol—

“mae i “tir a ryddheir” yr ystyr a roddir i “release land” yn adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;”; ac

“mae i “tir cyfnewid” yr ystyr a roddir i “replacement land” yn adran 16(3) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;”.

(3) Rhaid darllen rheoliad 16(1) (arolygiadau safle) fel pe rhoddid “tir a ryddheir ac unrhyw dir cyfnewid” yn lle “tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef”.

(4) At ddiben rheoliad 22 (hysbysiad cyhoeddus o’r gwrandawiad) rhaid i’r hysbysiad a arddangosir neu a gyhoeddir yn unol â pharagraffau (1) a (2) o’r rheoliad hwnnw gynnwys—

(a)     lleoliad y tir a ryddheir; a

(b)     datganiad a gynigir ai peidio cofrestru unrhyw dir fel tir cyfnewid, ac os felly, lleoliad y tir cyfnewid.

                   ATODLEN 10      Rheoliad 50

Gwaith cyfyngedig ar dir comin

Addasu is-ddeddfwriaeth

1.(1) Mae Rheoliadau Gwaith ar Diroedd Comin, etc. (Gweithdrefn) (Cymru) 2012([55]) mewn perthynas â cheisiadau o dan adran 38(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2) Yn rheoliad 2(2), rhaid darllen y diffiniad o “yr awdurdod sy’n penderfynu” (“the determining authority”) fel pe bai is-baragraff (b) a’r gair “neu” sy’n ei ragflaenu wedi eu hepgor.

(3) Nid yw rheoliadau 4 i 9 yn gymwys.

(4) Rhaid darllen rheoliad 10(1) fel pe rhoddid “at Weinidogion Cymru cyn i’r cyfnod sylwadau ddod i ben” yn lle “at yr awdurdod sy'n penderfynu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o gais”.

(5) Nid yw rheoliad 10(3) i (6) yn gymwys.

(6) Nid yw rheoliadau 11 i 18 yn gymwys.

2.(1) Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2) Rhaid darllen erthygl 2 (dehongli) fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn y man priodol—

“ystyr “tir comin” (“common land”) yw tir o fath a bennir yn adran 38(5)(a) a (b) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;”.

(3) Rhaid darllen erthygl 12 (ceisiadau: gofynion cyffredinol) fel pe bai rhaid i’r cais ddod gydag—

(a)     map sy’n dangos y tir comin y bwriedir gwneud y gwaith arno, gydag—

                           (i)    ffin y tir comin wedi ei marcio â lliw gwyrdd; a

                         (ii)    safle’r gwaith arfaethedig wedi ei farcio â lliw coch;

(b)     (pan fo’n briodol) plan neu luniad o’r gwaith arfaethedig; ac

(c)     os yw’r tir yn dir comin cofrestredig, copi o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr o dir comin gedwir gan yr awdurdod cofrestru tiroedd comin perthnasol o dan adran 1 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006.

(4) Rhaid darllen erthygl 18 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru) fel pe bai’r hysbysiad gofynnol yn cynnwys—

(a)     enw’r ceisydd;

(b)     enw’r tir comin yr effeithir arno gan y gwaith arfaethedig;

(c)     disgrifiad o’r gwaith arfaethedig a’i leoliad.

(5) Rhaid darllen erthygl 18(2)(b) fel pe bai rhaid anfon yr hysbysiad gofynnol at—

(a)     perchennog y tir y bwriedir gwneud y gwaith arno (os nad y perchennog yw’r ceisydd);

(b)     unrhyw berson arall sy’n meddiannu’r tir;

(c)     os yw’r tir yn dir comin cofrestredig, meddiannydd unrhyw eiddo a ddangosir yn y gofrestr tir comin fel eiddo sydd â hawliau comin yn gysylltiedig ag ef, ac y cred y ceisydd fod y meddiannydd yn arfer yr hawliau hynny, neu fod y cais yn debygol o effeithio arno;

(d)     unrhyw berson arall y gŵyr y ceisydd fod hawl ganddo i arfer hawliau comin ar y tir ac y cred y ceisydd ei fod yn arfer yr hawliau hynny neu fod y cais yn debygol o effeithio arno;

(e)     y cyngor cymuned (os oes un) ar gyfer yr ardal y bwriedir gwneud y gwaith ynddi.

(6) Rhaid darllen erthygl 18(3) fel pe bai rhaid i’r wybodaeth sydd i’w chyhoeddi ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru gynnwys y materion a restrir yn is-baragraff (4)(a) i (c).

(7) Rhaid darllen erthygl 19(2) fel pe rhoddid yn ei lle y canlynol—

(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad drwy arddangos ar y safle, mewn ffurf a gyflenwir i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru, am ddim llai na 21 diwrnod, yn y prif fannau mynediad i’r tir comin y bwriedir gwneud y gwaith arno (neu, os nad oes mannau o’r fath, mewn man amlwg ar ffin y tir comin hwnnw).

(8) Rhaid darllen erthygl 29(3) fel pe rhoddid yn ei lle y canlynol—

(3) Rhaid i’r penderfyniad ddatgan, gan roi rhesymau, pa un a yw cydsyniad ar gyfer y gwaith arfaethedig—

(a)   wedi ei roi fel y gofynnwyd yn y cais;

(b)  wedi ei roi yn rhannol yn unig, neu’n ddarostyngedig i addasiadau neu amodau; neu

(c)   wedi ei wrthod.

3. Yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn y modd y’u cymhwysir i gais am gydsyniad o dan adran 38(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, mae cyfeiriad at “person penodedig” (“appointed person”) yn gyfeiriad at y person a benodwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o Reoliadau Gwaith ar Diroedd Comin, etc. (Gweithdrefn) (Cymru) 2012.

 



([1])           Ar gyfer “development of national significance” (“datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol”) gweler adran 62D(3) a (4) o Ddeddf 1990. Mewnosodwyd adran 62D gan adran 19 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4).

([2])           Ar gyfer “cydsyniadau eilaidd” (“secondary consents”), gweler adran 62H o Ddeddf 1990, a fewnosodwyd gan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.

([3])           1979 p. 46. Gwnaed diwygiadau i Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([4])           1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 321B gan adran 81 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5). Diwygiwyd adran 333 gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) a pharagraff 6 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

([5])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cofnodion priodol yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

([6])           Mewnosodwyd adrannau 61Z1 a 61Z2 gan adran 18 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.

([7])           Mewnosodwyd adran 62G gan adran 20 o’r Ddeddf honno.

([8])           Mewnosodwyd adran 319B gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2773 (Cy. 280)) ac fe’i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a pharagraff 20 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.

([9])           Mewnosodwyd adran 323A gan adran 50 o’r Ddeddf honno.

([10])         Mewnosodwyd Atodlen 4D gan adran 26 o’r Ddeddf honno a pharagraff 1 o Atodlen 3 iddi.

([11])         2015 dccc 4.

([12])         2006 p. 26. Diffinnir “appropriate national authority” (“awdurdod cenedlaethol priodol”) yn adran 61(1) o’r Ddeddf honno.

([13])         Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

([14])         Mewnosodwyd adran 62D gan adran 19 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.

([15])         2000 p. 7. Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.

([16])         Mae erthygl 4 yn darparu mai’r cyfnod sylwadau yw pum wythnos, ond caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy gyfarwyddyd mewn unrhyw achos penodol.

([17])         O.S. 2016/ 55 (Cy. 25).

([18])         Mae datblygiad yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol os yw’n bodloni’r meini prawf a bennir yn Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/53 (Cy. 23).

([19])         Ar gyfer y diffiniad o “secondary consent” (“cydsyniad eilaidd”) gweler adran 62H o Ddeddf 1990, a fewnosodwyd gan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Rhagnodir cydsyniadau eilaidd at ddibenion adran 62H gan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016.

([20])         Ar gyfer y ffioedd penodedig ac amrywiol sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaethau cyn-ymgeisio, gweler Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 (O.S.2016/57) (Cy. 27).

([21])         Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 31) ac fe’i diwygiwyd gan adran 174(2) o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) a chan adran 7 o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) a pharagraff 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

([22])         O.S. 2016/ 57 (Cy. 27).

([23])         Mewnosodwyd adran 62E gan adran 19 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.

([24])         Mewnosodwyd adran 62I gan adran 21 o’r Ddeddf honno.

([25])         Mewnosodwyd adran 62L gan adran 22 o’r Ddeddf honno.

([26])         Mewnosodwyd adran 62Q gan adran 24 o’r Ddeddf honno.

([27])         Mewnosodwyd adran 319B(5A) gan baragraff 20 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.

([28])         Mae adran 319B(3) yn ei gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r weithdrefn berthnasol cyn diwedd y cyfnod rhagnodedig. Ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau, gweler adran 336(1) o Ddeddf 1990.

([29])         Diffinnir “interested person” (“person â buddiant”) yn adran 319B(8A) o Ddeddf 1990. Mewnosodwyd is-adran (8A) gan adran 27 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a pharagraff 20(4) o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.

([30])         O.S. 2006/1387 (Cy. 137).

([31])         Gweler adran 62G(2) o Ddeddf 1990 ar gyfer ystyr “relevant person” (“person perthnasol”).

([32])         Gweler adran 62H o Ddeddf 1990 ar gyfer ystyr “secondary consent” (“cydsyniad eilaidd”).

([33])         1979 p. 46.

([34])         1980 p. 66.

([35])         1990 p. 9.

([36])         Diwygiwyd adran 74(1) gan adran 63 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24) a pharagraffau 7, 12(1) a (2) o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.

([37])         1990 p. 10.

([38])         2006 p. 26.

([39])         1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 62D gan adran 19 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.

([40])         Diwygiwyd adran 73 gan adrannau 42(2) a 120 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) ac Atodlen 9 i’r Ddeddf honno. Mae erthygl 2(1) o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/54) (Cy. 24) yn cymhwyso adran73, gydag addasiadau, i geisiadau a wneir i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 62D o Ddeddf 1990.

([41])         Gwnaed diwygiadau i adran 91 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([42])     Gwnaed diwygiadau i Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([43])     O.S. 1981/1301. Mae Rheoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 2001 (O.S. 2001/1438) (Cy.100) yn rhagnodi’r fersiwn Gymraeg o’r ffurflenni perthnasol.

([44])     1990 p. 9.

([45])         O.S. 2012/793 (Cy. 108).

([46])         O.S. 2012/793 (Cy. 108).

([47])         O.S. 2015/1597(Cy.196).

 ([48])     Gwnaed diwygiadau i adran 70(2) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([49])      Mewnosodwyd adran 70A gan adran 17 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34). Gwnaed diwygiadau i adran 70A nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([50])      Amnewidiwyd adran 71(1) a (2) gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991.

([51])      Mewnosodwyd adran 73A gan adran 32 o’r Ddeddf honno a pharagraff 16 o Atodlen 7 iddi.

([52])      Mewnosodwyd adran 327A gan adran 42(5) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5).

([53])      O.S. 2012/801 (Cy. 110). Gwnaed diwygiadau i’r Gorchymyn hwnnw nad ydynt yn berthnasol i’r Atodlen hon.

([54])         O.S. 2012/738 (Cy.98).

([55])         O.S. 2012/737 (Cy. 97).